P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Emma Eynon, ar ôl casglu 56 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni sydd wedi llofnodi
isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru orfodi gwell bolisïau cod
ymddygiad i gyflogeion awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, mae
swyddogion awdurdod cynllunio yn cael rhedeg cwmnïau
ymgynghori cynllunio preifat a chyflawni eu rolau cyhoeddus ar yr
un pryd. Nid oes adnodd ar gael y gellir ei fuddsoddi er mwyn
plismona’r cwmnïau preifat hyn, lle y’u datgenir
yn y ffurflenni angenrheidiol, er atal twyll a llygredd.
A chymryd swyddogion cynllunio fel enghraifft, mae potensial y
gallai rhedeg busnesau ymgynghori preifat ‘yn ddistaw
bach’ hwyluso llygredd, gan fod llawer o fathau, yn
gyffredinol yn ymwneud â chamddefnyddio swydd. Mae angen rhoi
terfyn ar yr arfer hwn ar unwaith a rhaid diwygio’r
cyfansoddiadau fel na cheir ymddwyn yn y modd hwn mwyach. Rydym yn
galw am fwy o atebolrwydd a thryloywder gan ein hawdurdodau lleol,
a rhaid pennu safonau ymddygiad mewn swyddogaethau cyhoeddus
o’r fath a fyddai’n uwch na rhai’r sector
preifat, lle mae hyn yn hynod annerbyniol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Castell-nedd
· Gorllewin De Cymru